Yn rownd derfynol Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Jordan Rosser
Mae helpu i gyflwyno o leiaf dau sesiwn hyfforddi bob wythnos a helpu mwy na 200 o bobl ifanc i chwarae golff yn gyflawniad anhygoel i unrhyw berson ifanc 16 oed.
Ond ystyriwch hyn: mae gan Jordan Rosser wyth o anableddau gwahanol, gan gynnwys awtistiaeth, Tourettes a hypersymudedd, ac mae’n defnyddio cymorth clyw. Mae ei fam, Emma, yn dweud eu bod “o i gyd yn cael effaith ar ei fywyd bob dydd”
Ond yn ôl Jordan, “Y cyfan yw anabledd yw bod yn abl mewn ffordd wahanol.”
Mae’n chwaraewr medrus sy’n cystadlu’n rheolaidd mewn digwyddiadau mawr, fel Taith Amatur a Phroffesiynol Ewrop a Chystadleuaeth Gwahoddiad Ian Poulter. Mae hefyd yn gapten ieuenctid Clwb Golff y Rhondda.
Mae’n was ffyddlon i fyd golff ac yn hyfforddi ym Menter Golff y Cymoedd ac Academi First Swing Clwb Golff Bryn Meadows. Ac mae Datblygu Golff Cymru’n gofyn am ei gefnogaeth yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau mawr.
Esbonia ei fam:
“Rydw i mor falch ohono fe. Mae bob amser yn rhoi pawb a phopeth yn gyntaf. Mae wedi dioddef gyda’i iechyd dros y mis diwethaf yma, sy’n golygu nad yw wedi gallu hyfforddi cymaint ag y byddai’n hoffi, ond mae bob amser yn ei orfodi ei hun i godi allan o’r gwely i weld yr ieuenctid wrth y tî.”
“Rydw i wrth fy modd yn gweld eraill yn rhagori ac mae’n braf teimlo eich bod chi wedi chwarae rhyw ran yn hynny,” dywedodd Jordan. “Rydw i’n hoffi ceisio magu hyder y plant. Maen nhw’n dechrau’n swil yn aml iawn ond ar ôl sesiwn neu ddau, maen nhw’n sgwrsio llawer mwy.”
Nid dim ond y plant 5 i 12 oed mae’n helpu i’w hyfforddi ddwywaith yr wythnos sy’n elwa yn ôl pob tebyg – mae’n cael effaith gadarnhaol ar Jordan hefyd i weld:
“Rydw i’n dioddef o bryder mawr ond mae hyfforddi’n gwneud i mi ymlacio a theimlo’n hapus. Mae’n help yn sicr.”
“Rydw i eisiau bod yn hyfforddwr proffesiynol gyda’r PGA yn union fel fy hyfforddwr i, Craig Thomas. Rydw i eisiau gallu cyflwyno hyfforddiant golff i bobl anabl a heb anabledd. Rydw i wedi gwneud cwrs arweinydd iau eisoes ac ar fin gwneud lefel un.”
“Ond fy mhrif nod i yw gwneud clybiau golff Cymru’n fwy cynhwysol i bobl ag anableddau.”
Ac mae wedi rhoi cychwyn da i hynny eisoes. Fel aelod o Banel Ieuenctid Datblygu Golff Cymru, mae’n mynd ati i ddylanwadu ar ddyfodol golff yng Nghymru, yn benderfynol o wneud y gamp yn fwy cynhwysol. Hefyd mae wedi ysgrifennu at bob clwb golff yng Nghymru yn datgan ei ble dros wneud y gêm yn fwy hygyrch.
Yn goresgyn rhwystrau bob dydd, mae’n ŵr ifanc sydd ag uchelgais mawr a phenderfyniad diwyro.
Leave a Reply
Want to join the discussion?Feel free to contribute!