Datgelu rhestr fer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales
Mae’r rhestr fer ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales wedi cael ei chyhoeddi.
Mae unigolion o amrywiaeth o ddisgyblaethau wedi cael eu cynnwys ar y rhestr fer sy’n adlewyrchu llwyddiant Cymru mewn nifer o feysydd. Mae’n cynnwys:
· Gareth Bale (Pêl-droed)
· Elinor Barker (Seiclo)
· Laura Deas (Bobsled sgeleton)
· Menna Fitzpatrick (Sgïo)
· Geraint Thomas (Seiclo)
· Mark Williams (Snwcer)
Bydd y cyfnod pleidleisio yn agor ar 26ain Tachwedd a chyhoeddir yr enillydd mewn seremoni wobrwyo a fydd yn llawn enwogion yn y Celtic Manor nos Fawrth 4 Rhagfyr.
Mae’r rhestr o sêr sydd wedi ennill y wobr yn y gorffennol yn cynnwys yr arwr pêl-droed Ryan Giggs, y bocsiwr Joe Calzaghe, a’r athletwr Paralympaidd Tanni Grey-Thompson.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae datgelu Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales yn uchafbwynt Gwobrau Chwaraeon Cymru, ac yn gyfle pwysig i ni ddiolch i’r bobl sydd wedi ein difyrru a’n hysbrydoli drwy gydol y flwyddyn. Mae hon yn rhestr fer gref iawn ac yn adlewyrchu blwyddyn eithriadol o chwaraeon yng Nghymru ar draws nifer o feysydd ac edrychaf ymlaen at weld pwy fydd yn fuddugol fis nesaf.”
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn neilltuol arall i chwaraeon yng Nghymru gyda rhai perfformiadau rhyfeddol ar y llwyfan rhyngwladol gan unigolion a thimau a chaiff hyn ei adlewyrchu mewn rhestr fer gref iawn. Roedd hi’n dasg eithriadol o anodd i’r panel orfod dewis chwe enw ar gyfer y rhestr fer o’r llu o berfformiadau a oedd wedi cydio yn nychymyg y cyhoedd dros y 12 mis diwethaf ac rwy’n edrych ymlaen at weld pwy fydd y cyhoedd yn dyfarnu’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn y seremoni.
“Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn noson o ddathlu ac yn gyfle euraid i ddiolch i’r rheini sydd wedi ein hysbrydoli a’n cymell ni. Mae’r rheini sydd wedi gweithio’n ddiflino yn eu cymunedau lleol i ddarparu cyfleoedd i bobl fwynhau chwaraeon yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd wrth y rheini sydd wedi cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf. Gyda’i gilydd maen nhw’n amlygu beth mae chwaraeon yn ei olygu i bobl yng Nghymru.”
Mae’r gwobrau eraill a roddir ar y noson yn cynnwys:
· Gwirfoddolwr y Flwyddyn
· Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
· Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn
· Gwobr Cymru Actif
· Gwobr Sefydliad y Flwyddyn
· Arwr Tawel Get Inspired y BBC