
GERAINT THOMAS A JO COOMBS YN CIPIO ANRHYDEDDAU GWOBRAU CHWARAEON CYMRU
Dyyd Llun, Rhagfyr 8, 2014
Wedi i Gymru gipio’r nifer mwyaf o fedalau erioed yng Ngemau’r Gymanwlad, y beiciwr Geraint
Thomas a’r hyfforddwraig gymnasteg, Jo Coombs, enillodd brif deitlau seremoni Gwobrau
Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd heno (nos Lun 8 Rhagfyr).
Aeth Thomas, a dderbyniodd ei wobr gan ei gyd-feiciwr, Syr Bradley Wiggins, yn syth o’i safle uchaf
erioed yn y Tour de France i Gemau’r Gymanwlad, lle enillodd efydd yn y Treial Amser ac wedyn, yn
nodedig iawn, goroesodd byncjar hwyr yn y dydd a newid olwyn i hawlio’r aur yn y Ras Ffordd. Roedd
yn berfformiad a sicrhaodd iddo bleidlais y cyhoedd i ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y
Flwyddyn BBC Cymru.
Coombs enillodd deitl Hyfforddwr y Flwyddyn ar ôl arwain y sgwad gymnasteg rhythmig i ennill nifer
uwch nag erioed o fedalau yn y Gemau, sef wyth.
Trechodd Thomas, a gipiodd Aur Olympaidd yn 2012, Frankie Jones (2il safle) a Manon Carpenter
(3ydd safle) i ennill gwobr BBC Cymru.
Daeth Chwaraeon Cymru a BBC Cymru at ei gilydd unwaith eto i gynnal dathliad chwaraeon
blynyddol mwyaf y wlad. Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghanolfan Genedlaethol
Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.
Anrhydeddwyd cyflawniadau nodedig eraill yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn y
digwyddiad:
Dyma’r enillwyr:
· Tîm y Flwyddyn – Tîm Cymru (Gemau’r Gymanwlad)
· Gwobr Cyflawniad Oes (Elitaidd) – Terry Griffiths (snwcer)
· Gwobr Cyflawniad Oes (Cymunedol) – Terry Grey (bocsio)
· Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Donna Marshall (Clwb Rygbi Ffynnon Taf)
· Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Rhys Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
· Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Niall McGuinness (Clwb Pêl Droed Y Rhyl)
· Athletwr Iau y Flwyddyn Carwyn James – David Omoregie (athletau)
· Athletwraig Iau y Flwyddyn Carwyn James – Laura Halford (gymnasteg rhythmig)
· Hyfforddwr Pobl Anabl – Paul Jenkins (Clwb Rygbi Cadair Olwyn Môr Ladron De Cymru)
· Arwr Tawel – Bill Marlow (Clwb Cyfeiriannu Canolbarth Cymru)
· Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Royden Healey (Tri Stars Rhuthun)
Aeth gwobr Tîm y Flwyddyn i Dîm Cymru am eu casgliad mwy nag erioed o’r blaen o fedalau yng
Ngemau’r Gymanwlad, sef cyfanswm o 36, gan eu gosod ar y blaen i’r holl wledydd cartref, yn
ogystal ag Awstralia a Seland Newydd, yn ôl medalau y pen ar sail poblogaeth y wlad.
Derbyniodd un o gewri’r byd snwcer yng Nghymru, Terry Griffiths, Wobr Cyflawniad Oes (Elitaidd).
Enillodd Griffiths Bencampwriaeth y Byd yn 1979 ar ei ymgais gyntaf ac roedd yn y rownd derfynol yn
1988.
Dyfarnwyd yr anrhydedd o Gyflawniad Oes (Cymunedol) i un o gewri’r byd bocsio yn Abertawe, Terry
Grey. Cymerodd yr awenau yng Nghlwb Bocsio Amatur Gwent yn 1971 ac mae wedi creu lleoliad
bocsio a chwaraeon hynod lwyddiannus yn un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Donna Marshall o Glwb Rygbi Ffynnon Taf enillodd wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn am waith sy’n
cynnwys rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ag awtistiaeth chwarae’r gêm, ac aeth gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y
Flwyddyn i Rhys Young o Ben-y-bont ar Ogwr.
Enillodd Hyfforddwr Academi Clwb Pêl Droed Y Rhyl, Niall McGuinness, wobr Hyfforddwr Ifanc y
Flwyddyn am gynyddu niferoedd a helpu chwaraewyr i symud ymlaen i glybiau proffesiynol.
Aeth gwobr Athletwr y Flwyddyn Carwyn James i David Omoregie. Enillodd y neidiwr clwydi 110m
19 oed yr efydd ym Mhencampwriaethau Iau’r Byd ym mis Gorffennaf 2014 mewn amser o 13.35
eiliad.
Y gymnast rythmig yng Ngemau’r Gymanwlad, Laura Halford, enillodd wobr Athletwraig y Flwyddyn
Carwyn James. Ar ôl cipio teitl hyn Prydain yn gynharach yn ystod y flwyddyn, enillodd y ferch 18 oed
dair medal yng Ngemau’r Gymanwlad.
Hyfforddodd Paul Jenkins dîm rygbi cadair olwyn Gemau Invictus Prydain i gipio’r aur, ochr yn ochr
a’i waith gyda chlwb Môr Ladron De Cymru, gan sicrhau iddo goron Hyfforddwr Pobl Anabl.
Mae Bill Marlow, cyn-athro o’r Drenewydd, yn rhoi ei amser i ddenu plant Canolbarth Cymru at
ymwneud â chyfeiriannu. Ar ôl ennill gwobr Arwr Tawel BBC Cymru, bydd Bill yn mynd ymlaen
yn awr i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU, a gyhoeddir yn ystod Personoliaeth Chwaraeon y
Flwyddyn y BBC ar BBC One Wales nos Sul, 14 Rhagfyr.
I gwblhau’r rhestr o enillwyr, Royden Healey, hyfforddwr triathlon sydd wedi rhoi cyfle i gannoedd o
bobl ifanc roi cynnig ar y gamp, enillodd wobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.
Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister:
“Bob blwyddyn rydyn ni’n ceisio cyflawni mwy fel cenedl mewn chwaraeon ac mae enillwyr
Gwobrau Chwaraeon Cymru’n dangos ein bod ni wedi codi i lefel uwch unwaith eto.
“Ar lefel elite ac ar lawr gwlad, rydyn ni’n gweld llwyddiant na welwyd mo’i debyg o’r blaen
o ran nifer y medalau sy’n cael eu hennill a nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
“Ein her nesaf ni yw cefnogi mwy a mwy o unigolion i gael yr un effaith ag enillwyr ein
Gwobrau ni. Dyna’r unig ffordd i ni gynnal y momentwm cadarnhaol sy’n bodoli yn y byd
chwaraeon yng Nghymru ar hyn o bryd.”
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru:
“Mae wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i chwaraeon yng Nghymru. Roedd y seremoni’n gyfle
perffaith i ganolbwyntio ar gyflawniadau’r timau a’r unigolion ysbrydoledig sydd wedi gwneud
y 12 mis diwethaf mor arbennig.
“O feicio a phêl droed i focsio a gymnasteg, mae’n wefr gweld y cyfoeth yma o athletwyr o
safon byd yn cystadlu dros Gymru – a chael cydnabod y talentau y tu ôl i’r llenni sy’n gwneud
y cyfan yn bosib.
Bydd y seremoni’n cael ei hailchwarae’n llawn ar y Botwm Coch am 10pm nos Lun 8 Rhagfyr. Bydd
posib ei gweld ar BBC iPlayer am saith niwrnod hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i walessportawards.org.uk
Diwedd
Dosbarthwyd gan Adran Cyfathrebu BBC Cymru a Chwaraeon Cymru
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Sioned Gwyn ar 029 2032 2541
sioned.gwyn@bbc.co.uk neu Paul Batcup ar 029 2033 8359 / paul.batcup@sportwales.org.uk
Leave a Reply
Want to join the discussion?Feel free to contribute!