
CYHOEDDI ENWAU PRIF HYFFORDDWYR A GWIRFODDOLWYR CYMUNEDOL CYMRU 2015
Mae Chwaraeon Cymru a BBC Cymru Wales wedi datgelu rhestr fer o arwyr lleol chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru ar gyfer 2015.
Ar ôl chwilio ar hyd a lled Cymru, mae’r unigolion sydd yn rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Cymru 2015 wedi cael eu dewis gan banel arbenigol o feirniaid.
Dyma’r bobl sydd yn y cefndir yn aml, ond sy’n helpu i sicrhau bod chwaraeon cymunedol yng Nghymru’n ffynnu.
Daw’r unigolion hyn at ei gilydd ar Ragfyr 7 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd i gydnabod goreuon y byd chwaraeon elite ac ar lawr gwlad yng Nghymru.
Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn bartneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru a BBC Cymru Wales er mwyn creu dathliad chwaraeon blynyddol mwyaf y wlad.
Dyma’r unigolion sydd yn y rownd derfynol fel hyfforddwyr a gwirfoddolwyr cymunedol:
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Ade Howells – Rygbi, Castell-nedd Port Talbot
Jan Davies – Gymnasteg, Wrecsam
Wendy Pressdee – Pêl Rwyd, Abertawe
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
Nikki Upton – Hoci, Caerffili
Samantha O’Callaghan – Pêl Rwyd, Blaenau Gwent
Angeline Tshiyane – Aml-Chwaraeon, Casnewydd
Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn
Jordan Rosser – Golff, Rhondda Cynon Taf
Greg Price – Tennis Bwrdd, Blaenau Gwent
Lowri Haf Barker – Pêl Rwyd, Sir y Fflint
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
Robert Cunnah – Sir Ddinbych, Aml-Chwaraeon
Jonathan Williams – Merthyr, Aml-Chwaraeon
Elan Môn Gilford – Ynys Môn, Aml-Chwaraeon
Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn
Caroline Matthews – Caerdydd, Pêl Fasged Cadair Olwyn
John Wilson – Abertawe, Bowlio i Bobl â Nam ar y Golwg
Gwilym Lewis – Sir Gaerfyrddin, Rygbi
“Ar adeg pan mae chwaraeon yn cael ei gofleidio gan ein cenedl ni yn fwy nag erioed o’r blaen, dyma’r unigolion sydd wrth galon yr hyn sy’n cael ei gyflawni,” dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru.
“Rhaid i chwaraeon cymunedol gynnwys profiadau a chyfleoedd pleserus i ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan. Mae’r hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr yma’n arwain y ffordd i gael mwy o bobl yng Nghymru i wirioni ar chwaraeon.
“Roedd dewis yr unigolion ar gyfer y rownd derfynol yn dasg mor anodd ac mae darllen eu straeon yn profi eu bod yn haeddu’r sylw yma.”
Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales, Geoff Williams:
“Mae gan bob un sydd yn y rownd derfynol strori hynod ysbrydoledig i’w rhannu. Mae meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent chwaraeon, a hefyd cefnogi’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon fel rhan o’u bywyd bob dydd, yn allweddol er mwyn cynnal statws Cymru fel cenedl chwaraeon o safon.
“Unwaith eto, mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn gyfle i athletwyr elite ac ar lawr gwlad o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ddod at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiant.”
I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gwobrauchwaraeoncymru.co.uk
Mwy o wybodaeth am yr unigolion yn y rownd derfynol
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Ade Howells – Rygbi, Castell-nedd Port Talbot
Mae Ade wedi chwarae rhan allweddol yn sbarduno strwythur newydd ar gyfer gêm y merched yng Nghymru. Mae wedi arwain ar drefnu a gweinyddu a gwelwyd cynnydd o 313% yn nifer y gemau sydd wedi’u chwarae ers 2010.
Jan Davies – Gymnasteg, Wrecsam
Roedd Jan yn aelod hanfodol o’r Rhaglen Datblygu Beirniaid a lansiwyd gan Gymnasteg Cymru er mwyn annog a datblygu beirniaid newydd yng Nghymru. Drwy ymrwymiad ac angerdd Jan, mae wedi cynyddu nifer y beirniaid 138% yn y cylch hwn.
Wendy Pressdee – Pêl Rwyd, Abertawe
Mae Wendy yn rhoi mwy na 30 awr yr wythnos, a llawer mwy weithiau, i bêl rwyd. Mae’n treulio tair noson yr wythnos yn arwain Cynghrair Bêl Rwyd Gorllewin Morgannwg – yn cydlynu gemau, canlyniadau, achrediadau a chwaraewyr.
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
Nikki Upton – Hoci, Caerffili
Mae Nikki Upton wedi creu adran iau newydd yng Nghlwb Hoci Merched Yr Isga, gan gynnig llwybr o hoci iau i lefel hyn.
Samantha O’Callaghan – Pêl Rwyd, Blaenau Gwent
Mae Samantha wedi integreiddio adrannau iau a hyn Clwb Pêl Rwyd Glynebwy ac maer newdi wedi atal nifer yr aelodau iau sy’n rhoi’r gorau iddi a chynyddu aelodaeth gyffredinol y clwb o 38%.
Angeline Tshiyane – Aml-Chwaraeon, Casnewydd
Prif gyflawniad Angeline yw sefydlu amrywiaeth o grwpiau chwaraeon i bobl ifanc o gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig, yn benodol gyda sesiynau nofio a gweithgarwch corfforol newydd.
Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn
Jordan Rosser – Golff, Rhondda Cynon Taf
Mae Jordan yn aelod o Banel Ieuenctid Datblygu Golff Cymru ac mae’n helpu i ddylanwadu ar ddyfodol Golff Iau yng Nghymru. Mae wedi gwirfoddoli a helpu gyda hyfforddi mwy na 200 o bobl ifanc eleni.
Greg Price – Tennis Bwrdd, Blaenau Gwent
Mae gallu chwaraeon aml-dalentog Greg wedi golygu bod y galw am ei wasanaethau wedi ymestyn ar draws Blaenau Gwent ac i Ferthyr. Mae wedi gweithio gyda mwy na 500 o bobl ifanc mewn chwaraeon amrywiol ac wedi helpu i sefydlu Clwb Badminton Glynebwy, ble mae’n parhau i hyfforddi.
Lowri Haf Barker – Pêl Rwyd, Sir y Fflint
Er gwaethaf oedran Lowri a’r ffaith ei bod yn dal i astudio’n llawn amser ar hyn o bryd, mae’n gwirfoddoli llawer iawn o’i hamser yn hyfforddi ac yn rhedeg adran iau Clwb Pêl Rwyd Yr Wyddgrug. Mae wedi cynyddu ystod oedran yr hyfforddi ac erbyn hyn maen hyfforddi chwaraewyr rhwng 8 a 15 oed ac yn eu helpu wrth iddynt symud i fyd pêl rwyd yr oedolion yn 16 oed.
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
Robert Cunnah – Sir Ddinbych, Aml-Chwaraeon
Cwblhaodd Robert ei dystysgrif 200 awr Gwirfoddolwyr y Mileniwm eleni ond mae wedi cyfrannu mwy na 450 o oriau gwirfoddol mewn gwirionedd. Mae wedi ennill cymhwyster arweinydd pêl droed, dyfarniad arweinydd chwaraeon lefel dau a dyfarniad dyfarnwr pêl droed. O ganlyniad derbyniodd Gwpan Llywydd Sports Leaders UK yn 2015.
Jonathan Williams – Merthyr, Aml-Chwaraeon
Mae Jon wedi bod yn rhan allweddol o raglen chwaraeon anabledd Merthyr yn ystod y 12 mis diwethaf ac wedi helpu i gyflwyno Sioe Deithiol Baralympaidd i ysgolion, sydd wedi rhoi cyfle i 500 o ddisgyblion gael blas ar chwaraeon anabledd hyd yma.
Elan Môn Gilford – Ynys Môn, Aml-Chwaraeon
Mae Elan wedi cwblhau ymhell dros 400 o oriau gwirfoddol, sydd wedi bod o fudd i bobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac i gymunedau ledled Ynys Môn. Mae ei gwaith eithriadol wedi ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon a sicrhau ffordd o fyw iachach a heini, sydd o fudd i bobl am oes.
Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn
Caroline Matthews – Caerdydd, Pêl Fasged Cadair Olwyn
Ar lefel clwb, mae wedi arwain Celtiaid Caerdydd i gipio teitl Adran 2 Cynghrair Bêl Fasged Genedlaethol Prydain. Ni threchwyd y clwb drwy gydol y tymor a chafodd ddyrchafiad i Adran 1.
John Wilson – Abertawe, Bowlio i Bobl â Nam ar y Golwg
Mae John wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o glybiau i greu mwy o ymwybyddiaeth o fowlio i bobl â nam ar y golwg a’r angen am fod yn gynhwysol. Mae’n trefnu arddangosfeydd o fowlio â nam ar y golwg i ddileu’r camsyniadau ac i ddechrau trafod sefydlu clybiau newydd. Sefydlodd John glwb newydd yn Rhydaman ac mae 20 o chwaraewyr wedi dechrau chwarae eisoes.
Gwilym Lewis – Sir Gaerfyrddin, Rygbi
Mae Gwilym yn hyfforddwr tîm rygbi unedig/gallu cymysg Clwb Rygbi Rhyfelwyr Llanelli. Mae’r clwb yn mynd ati i gynnwys chwaraewyr sydd ag anawsterau dysgu, i chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr heb anableddau ac yn eu herbyn. Mewn camp sy’n hynod gorfforol, mae Gwilym wedi helpu i arloesi gyda chyfleoedd i chwaraewyr ag anableddau allu cymryd rhan.
Leave a Reply
Want to join the discussion?Feel free to contribute!