
BBC CYMRU A CHWARAEON CYMRU YN LANSIO GWOBRAU CHWARAEON CYMRU 2015
Heddiw (dydd Mawrth, Medi 1) mae BBC Cymru a Chwaraeon Cymru wedi dechrau chwilio am sêr disgleiriaf y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2015.
Caiff y cyhoedd yng Nghymru gyfle i gyfrannu i’r platfform pwysig hwn ar gyfer chwaraeon Cymru drwy sicrhau bod eu arwyr chwaraeon yn cael eu hanrhydeddu am eu medrau.
Ar ôl llwyddiant Gwobrau Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 2013, mae dathliad blynyddol mwyaf y wlad o’r gorau ym meysydd chwaraeon elite a llawr gwlad yn parhau i ddenu enwebion o Gymru benbaladr.
Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Cymru nos Lun, Rhagfyr 7 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Ymhlith y gwobrau a fydd yn cael eu rhannu fydd gwobrau mawreddog Hyfforddwr y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Maer cyhoedd yng Nghymrun cael cyfle i enwebu pobl ar gyfer y gwobrau ar lawr gwlad. Maer enwebiadau’n agor ddydd Mawrth, Medi 1 ac yn cau ddydd Gwener, Medi 25.
Dyma’r categorïau sy’n agored ar gyfer cyflwyno enwebiadau:
- Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn
- Gwobr Cyflawniad Oes (Cymunedol)
Cyflwinir hefyd gobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC ar y noson gydar cynrychiolydd o Gymru yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn enillwyr rhanbarthol Lloegr, Iwerddon ar Alban. Gall unigolion sydd wedi eu enwebu yn y gorffennol ac heb ddod ir brig, gael eu enwebu unwaith eto eleni.
Caiff enillydd y wobr hon ei gyhoeddi yn ystod rhaglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn Belfast, dydd Sul, Rhagfyr 20.
Maer enwebiadau’n yn cau dydd Iau, Hydref 22.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:
“Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn gyfle i edrych yn ôl ar y flwyddyn a chydnabod ymroddiad unigolion ar bob lefel sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Cymru fel cenedl sy’n rhagori ym myd chwaraeon.”
Ychwanegodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:
“Mae’r bartneriaeth â BBC Cymru i gynnal Gwobrau Chwaraeon Cymru yn parhau i gryfhau. Ein nôd yw hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru ac i ddathlu llwyddiant yr unigolion talentog sy’n gwireddu hyn ar bob lefel.
“Fel rhan o’r panel rwyn cael fy ysbrydoli wrth ddysgu am y rhai sydd yn y rownd derfynol a’u cyrhaeddiad anhygoel. Mae chwaraeon yn rhan o wead bywyd Cymru ac mae cydnabod gwaith da sydd yn aml yn pasio’n ddi-sylw yn hanfodol os ydym am gadarnhau ein pwysigrwydd wrth wraidd cymunedau yng Nghymru.
“Rydym am i fwy o’r boblogaeth ddod yn rhan o’r gweithlu chwaraeon a chynyddu lefelau cyfranogaeth, ac mae angen i ni ddangos pa mor bwysig ydynt i’r amcan yma.
“Rydym yn dibynnu ar enwebiadau cyhoeddus i ddewis y unigolion sy’n arwyr i gymaint ohonoch felly byddwn yn eich annog i gyd i neilltuo yr amser i wneud hynny.”
Mae rhagor o fanylion am y categorïau, a sut mae enwebu a phleidleisio, ar gael ar walessportawards.co.uk
Darlledir y seremoni yn fyw ar bbc.co.uk/sportwales ac hefyd ar y Botwm Coch ac BBC iPlayer.
#WSA2015
Leave a Reply
Want to join the discussion?Feel free to contribute!