BBC CYMRU WALES A CHWARAEON CYMRU’N DECHRAU CHWILIO AM OREUON Y BYD CHWARAEON YNG NGHYMRU YN 2017
Mae’r chwilio wedi dechrau am unigolion a sefydliadau ysbrydoledig sy’n ymwneud â chwaraeon wrth i’r enwebiadau agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Cymru 2017.
Heddiw (11 Medi 2017), mae BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru’n chwilio am hyfforddwyr a gwirfoddolwyr cymunedol yng Nghymru sy’n denu mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer.
Yn ogystal â dathlu sêr unigol chwaraeon ar lawr gwlad, mae’r beirniaid yn chwilio am sefydliadau a phrofiadau chwaraeon sy’n cydio yn nychymyg y genedl ac yn ysbrydoli mwy o bobl i gynnwys bod yn egnïol fel rhan o’u bywydau.
Dyma’r categorïau ar gyfer cyflwyno enwebiadau:
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
- Person Ifanc Ysbrydoledig
- Profiad Chwaraeon y Flwyddyn
- Sefydliad y Flwyddyn
- Arwr Tawel y BBC Get Inspired
Gwobrau Chwaraeon Cymru, sy’n cael eu cynnal ar y cyd gan BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru, yw dathliad blynyddol mwyaf y wlad o’r chwaraeon elitaidd a llawr gwlad gorau un.
Dywedodd Lawrence Conway, Cadeirydd Chwaraeon Cymru, “Fel rheol, mae rhywun sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac ymarfer rheolaidd wedi cael ei ysbrydoli gan hyfforddwr neu wirfoddolwr gwych ac mae eu profiad cyntaf yn gallu eu cael i ddal ati i gymryd rhan am oes.
“Mae yna bobl ac eiliadau sy’n gyffrous, yn arloesol ac yn llawn cymhelliant. Mae’r rhain yn digwydd ar hyd a lled y wlad ac rydyn ni eisiau dod o hyd i’r goreuon er mwyn cael eu dathlu a lledaenu’r neges ledled Cymru.”
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales, “Pa well ffordd o ddathlu goreuon y byd chwaraeon yng Nghymru – boed ar lefel gymunedol neu yn y byd elitaidd. Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru’n gyfle i gydnabod talent a gwaith caled cymaint o unigolion a sefydliadau ysbrydoledig ym mhob cwr o’r wlad, ac ar draws y sbectrwm chwaraeon, a dathlu eu cyflawniadau’n falch.”
Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau cymunedol ar agor nawr yn www.walessportawards.co.uk a chewch ragor o wybodaeth am y categorïau yma hefyd.
Mae’r enwebiadau’n cau am hanner dydd, dydd Gwener 29 Medi (enwebiadau Arwr Tawel y BBC Get Inspired yn cau ar 22 Hydref).
Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Cymru nos Lun 4 Rhagfyr yn y Celtic Manor, Casnewydd.
Mae’r seremoni’n cynnwys cyflwyno gwobrau anrhydeddus Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales a Hyfforddwr y Flwyddyn.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i www.walessportawards.co.uk
#WSA2017