Categorïau
Gwobrau cymunedol
#YsbrydolwchNi drwy enwebu EICH enillwyr cymunedol: hanner dydd Llun 2 il Medi – hanner nos Sul 22 ain Medi 2019
Person Ysbrydoledig y Flwyddyn
Ydych chi’n adnabod person (o unrhyw oedran) y gellir ei ddisgrifio fel ‘ysbrydoledig’?
Gall fod yn rhywun fel y canlynol:
• yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn wyneb sawl rhwystr
• wedi cyflawni rhywbeth gwych mewn chwaraeon er gwaethaf unrhyw adfyd
• neu berson (hyfforddwr/gwirfoddolwr/gofalwr /athro/rhiant) sy’n mynd yr ail filltir i helpu i annog eraill i gyflawni pethau gwych
• person mewn chwaraeon ar lawr gwlad sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr yn ei gymuned
Rhaid i’r enwebai fod yn berson (o unrhyw oedran) o Gymru neu sy’n byw yn barhaol yng Nghymru.
Gwobr Cymru Actif
Ydych chi’n gwybod am rywbeth neu rywun sydd wedi galluogi i chwaraeon yng Nghymru ffynnu ac i fwy o bobl gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, a’i fwynhau?
Gallai fod yn unigolyn, grŵp o bobl, clwb, ysgol, sefydliad, digwyddiad, rhaglen neu brosiect.
Dyma esiamplau o beth rydym yn chwilio amdano:
• Tystiolaeth o gael cyfranogwyr newydd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a gwneud gwahaniaeth mawr i’w ddefnyddwyr / cwsmeriaid
• Estyn allan at gymunedau amrywiol / grwpiau a dangynrychiolir
• Annog eraill i hybu gweithgarwch corfforol
• Dangos yr effaith ar ddiwylliant neu economi ehangach Cymru
• Syniadau newydd neu arloesol i oresgyn y rhwystrau sy’n atal cymryd rhan
• Nid ‘chwaraeon’ traddodiadol o angenrheidrwydd
• Wedi creu profiad chwaraeon pleserus a chroesawus – heb ystyried gallu na chefndir.
Bydd cyflawniadau yn ystod y cyfnod rhwng 1 af Medi 2018 a 31 ain Awst 2019 yn cyfrif tuag at yr enwebiad.
Stori Chwaraeon Fawr y Flwyddyn
Ydych chi’n gwybod am ddigwyddiad, prosiect neu foment chwaraeon sy’n haeddu sylw yn y penawdau?
Rydyn ni eisiau cydnabod moment sydd wedi rhoi chwaraeon ar y map yng nghymunedau Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Gallai fod y canlynol:
• moment neu ddigwyddiad sydd wedi creu emosiwn a dangos pŵer chwaraeon
• esiampl o chwaraeon yn gweithio gydag eraill i gael mwy o effaith ar draws diwylliannau
• rhywbeth sy’n dangos amrywiaeth neu arloesi ac sydd wedi cael effaith ar gymuned neu gymunedau er gwell
Bydd cyflawniadau yn ystod y cyfnod rhwng 1 af Medi 2018 a 31 ain Awst 2019 yn cyfrif tuag at yr enwebiad.
Penderfynir ar y categorïau elitaidd gan banel o arbenigwyr.
*Arwr Tawel y BBC Get Inspired yn agor. Manylion i ddilyn*
Arwr Tawel ‘Get Inspired y BBC’
Mae gwobr Arwr Tawel ‘Get Inspired y BBC’ yn agor ac yn chwilio am y gwirfoddolwyr mwyaf deinamig, blaengar a gweithgar o bob cwr o’r DU sy’n ysbrydoli pobl o bob oed i gadw’n heini.
Ewch ati i gydnabod yr unigolyn sydd bob amser yn rhoi pobl eraill yn gyntaf drwy ei enwebu ar gyfer gwobrau 2019.
Bydd enillydd gwobr Arwr Tawel BBC Cymru yn derbyn y wobr ar lwyfan Gwobrau Chwaraeon Cymru ar ddydd Mawrth, 10 Rhagfyr yn y Celtic Manor yn Casnewydd.
Bydd yr enillydd yn mynd trwyddo i rownd derfynol y wobr Arwr Tawel y BBC Get Inspired ynghŷd a’r enillwyr o’r Alban, Gogledd Iwerddon a 12 o’r rhanbarthau Lloegr. Bydd yr enillydd o’r rheiny yn derbyn ei gwobr yn y seremoni cenedlaethol Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn fyw ar BBC One.
I enwebu eich Arwr Tawel BBC Cymru gyda fideo, sain neu ffurflen ar y we arlein neu drwy e-bost, ewch i www.bbc.co.uk/unsunghero neu www.gwobrauchwaraeon.cymru. Bydd yr enwebiadau yn cau hanner nos ar ddydd Sul 20 Hydref gyda’r rhestr fer yn cael ei gyhoeddi yn y dyddiau yn arwain tuag at y seremoni cenedlaethol Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ym mis Rhagfyr.
Athletwr ac Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James
I gydnabod personoliaeth chwaraeon ifanc yng Nghymru yn seiliedig ar ei gyflawniadau hyd yma, gan roi blaenoriaeth i flwyddyn galendr y gwobrau.
Mae’r wobr hon yn agored i athletwyr
perfformiad o dan 18 oed am gyflawniadau yn ystod y cyfnod rhwng 1 Medi 2018 ac Awst 31ain 2019.
Bydd Chwaraeon Cymru yn enwebu enillwyr y categori hwn i banel Gwobrau Chwaraeon Cymru.
Hyfforddwr y Flwyddyn
Mae’r wobr hon yn chwilio am dystiolaeth o ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr athletwyr ac sy’n arwain at berfformiad llwyddiannus mewn camp ar y lefel uchaf.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
• Tystiolaeth o ddatblygu sy’n canolbwyntio ar yr athletwyr ac sy’n arwain at berfformiad
llwyddiannus.
• Tystiolaeth o gyflawniadau cenedlaethol neu ryngwladol yr athletwyr a hyfforddir.
• Enghreifftiau o arferion arloesol (fel defnydd o dechnoleg).
• Effaith ar Gymru a chwaraeon yng Nghymru.
Mae’n agored i hyfforddwyr sy’n hyfforddi athletwyr ar lefel perfformiad uchel yn eu camp (cenedlaethol a rhyngwladol).
Gall y rhai a enwebir fod yn Gymry, yn Gymry sy’n hyfforddi mewn gwlad y tu allan i Gymru, neu’n hyfforddwyr ar athletwyr o Gymru.
Bydd Chwaraeon Cymru a BBC Cymru Wales yn enwebu timau ar gyfer y categori hwn ar gyfer penderfyniad gan banel swyddogol Gwobrau Chwaraeon Cymru.
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales
Mae’r wobr hon, y pleidleisir drosti gan y cyhoedd drwy edrych ar restr o ymgeiswyr sydd wedi’u dewis gan banel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales, yn cael ei rhoi i’r person y teimlir ei fod wedi cyflawni’r gamp fwyaf yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.
Gwobr Cadwyn Hyfforddi
Ydych chi wedi meddwl erioed sut mae talentau chwaraeon gorau Cymru wedi cyrraedd ble maen nhw? Tu ôl i bob seren chwaraeon mae tîm o bobl a phrofiadau sydd wedi helpu i ddylanwadu arnyn nhw.
Mae’r wobr hon yn cydnabod y cyfraniad mae hyfforddwyr wedi’i wneud at gynorthwyo athletwr o Gymru o ddechrau ei siwrnai chwaraeon i gyrraedd brig uchaf ei gamp.
Mae’n edrych ar yr effaith maent wedi’i chael ar hyd y daith, ar yr athletwr ac ar y gamp neu’r campau’n ehangach.
*Penderfynir ar yr wobr hon gan banel o arbenigwyr
Bydd gwobr y Gadwyn Hyfforddi’n cael ei dyfarnu i athletwr sydd wedi gwneud cyflawniad chwaraeon mawr rhwng 1 af Medi 2018 a 31 ain Awst 2019, ac sy’n dod o Gymru neu sy’n byw yn barhaol yng Nghymru.
Rydyn ni’n hoffi ennill medalau, ond mae SUT yr un mor bwysig. Gallai enillwyr y Gadwyn
Hyfforddi ddangos y canlynol:
• creu amgylcheddau a phartneriaethau sy’n helpu’r athletwr i ffynnu
• dull cyfannol o ddatblygu athletwr (ystyried y person yn gyntaf)
• dull cydweithredol ac amlddisgyblaethol o weithredu
• ‘siwrnai’ neu ‘gadwyn’ sy’n datgan nodau’r athletwr ac yn darparu amgylcheddau pwrpasol
• systemau a phrosesau yn eu lle sy’n datgan anghenion penodol yr athletwr
Tîm y Flwyddyn
I’r tîm mewn camp neu ddisgyblaeth chwaraeon unigol sydd wedi cyflawni’r perfformiad mwyaf nodedig yn ystod y 12 mis diwethaf. Dylai’r tîm gynrychioli Cymru neu fod wedi’i leoli yng Nghymru.
Bydd Chwaraeon Cymru a BBC Cymru Wales yn enwebu timau ar gyfer y categori hwn ar gyfer penderfyniad gan banel swyddogol Gwobrau Chwaraeon Cymru.
Cyflawniad Oes
Bydd gwobr y categori hwn yn cael ei dyfarnu yn unol â disgresiwn y panel beirniaid ac mae’n cael ei chadw ar gyfer yr unigolion hynny sydd wedi ymroi oes i chwaraeon yng Nghymru.